![]() |
||||||
|
Home
| News | Events
| Reviews & Pictures
| Workshops | Join
Span | About Span Arts
| Contact
| Event Archive | Links
|
||||||
|
|
|
|||||
Noddwch ni! Rhowch eich Enw a’ch Busnes ar y wefan drwy Noddi Celfyddydau Span a chefnogi ein hymrwymiad bwriadus i ddod â’r Celfyddydau Byw i Sir Benfro. I gael mwy o wybodaeth am Fod yn Gefnogwyr a dod yn Aelod o Gelfyddydau Span, Cliciwch Yma
|
Byddem yn hoffi cael gwefan lawn yn y Gymraeg, ond ar hyn o bryd nid ydym yn medru fforddio’r gost o ddiweddaru’r holl dudalennau yn barhaus. Ymddiheurwn yn fawr am hyn. Os hoffech gysylltu â ni i gynnig noddi’r fersiwn Gymraeg, neu ddigwyddiadau yn y Gymraeg, cysylltwch os gwelwch yn dda drwy’r e-bost neu rhowch ganiad i 01834 869323.
LLAETH MWNCI MADOG
Ymunwch â thri bardd direidus a hen lawiau’r sioeau canu blws a barddoni − John Barnie (gitâr a Planet), Nigel Jenkins (harmonica ac encyclopaedia) ac Iwan Llwyd (gitâr a het porc pei) - yn hwyl a sbri Llaeth Mwnci Madog / Madog’s Moonshine, sioe ddwyieithog o gerddi a chanu blws â naws cryf Cymru-America. Mae enw’r grwp yn dwyn i gof y Cymro enwog hwnnw wnaeth ‘ddarganfod’ America, Madog ab Owain Gwynedd (tua 1170). Dyma noson o gerdd a chân ddwyieithog, yng nghwmni rhai o berfformwyr barddol mwyaf unigryw’r wlad – a chyfle i chi gamu i’r llwyfan hefyd i gyflwyno’ch cerddi eich hun. Dathliad o gerddi yng nghwmniJohn Barnie, Nigel Jenkins, Iwan Llwyd ac eraill. Os ydych chi’n mwynhau ein clwb comedi neu ein sioeau chwedleua, byddwch yn joio mas draw heno. Ewch i’n gwefan am restr lawn o’r perfformwyr www.span-arts.org.uk Drysau’n agor am 7.30pm i ddechrau am 8pm. Tocynnau £6/£5 trwy ffonio 01834 869323
Noddir Celfyddydau Span gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Ymddiriedolaeth Elusennol Canolfan y Mileniwm
Cynlluniwyd y Wefan gan Jamieking.co.uk © Span Arts Ltd |
|||||
|
|
||||||