Cyrraedd Y Nod - Span Arts
565
post-template-default,single,single-post,postid-565,single-format-standard,bridge-core-2.3.8,ajax_fade,page_not_loaded,,qode_grid_1200,footer_responsive_adv,qode-child-theme-ver-1.0.0,qode-theme-ver-22.3.1,qode-theme-bridge,qode_advanced_footer_responsive_1000,wpb-js-composer js-comp-ver-7.6,vc_responsive

Cyrraedd Y Nod

“The music project has given me my son back”.

Roedd prosiect ‘Cyrraedd y Nod’ yn ymgysylltu â phobl ifanc 11-19 oed sy’n ‘anodd eu cyrraedd’ ac â risg uchel o ddod yn NEET (Heb fod mewn Cyflogaeth, Addysg na Hyfforddiant), trwy gyflwyno gweithdai celfyddydau a gweithgareddau i blant a phobl ifanc â phroblemau emosiynol ac ymddygiad yn Sir Benfro. Y prif nod yn y pendraw oedd helpu eu hail-integreiddio i addysg prif ffrwd, i’r gymdeithas ac, yn y pendraw, i’r gweithle.

Fe fu Celfyddydau Span Arts yn gweithio gyda phobl ifanc yn yr Unedau Cyfeirio Disgyblion a gyfeiriwyd gan Wasanaeth Cymorth Ymddygiad Sir Benfro, yn ogystal â’r rheiny a oedd yn mynychu Canolfannau Ieuenctid ar draws y sir, Prosiect Cornerstone yng Ngholeg Sir Benfro i bobl ifanc ag anableddau dysgu a’r Uned Awtistig yn Ysgol Penfro.

Trwy weithio gyda’r unedau hyn, ymgysylltwyd â chyfranogwyr ar oed digon cynnar fel ein bod yn gallu gwneud gwir wahaniaeth i’w dyheadau, hunan-hyder ac agweddau at ddysgu, trwy ymgysylltu â gweithdai cerddoriaeth, celfyddydau gweledol a digidol.

Roedd Cam 2 yn canolbwyntio ar feithrin dyheadau ac uchelgeisiau’r cyfranogwyr, a’u cefnogi, ac ar feithrin yr hyder a’r hunanhyder sydd eu hangen er mwyn dysgu mewn ffordd sydd wedi ei hysgogi.

Roedd gan yr holl brosiectau yr un amcanion ychwanegol o helpu gwella eu sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm a rhoi iddyn nhw’r gred eu bod yn gallu cyflawni eu potensial eu hunain.

Roedden ni wedi ymdrechu i roi hyfforddiant ac adnoddau i’r bobl ifanc mewn sgiliau a chyfryngau o’u dewis; a rhoddwyd cefnogaeth a gwybodaeth ynghylch posibiliadau a chyfleoedd go iawn.

Roedd yr adborth gan gyfranogwyr yn bositif iawn. Pan ofynnwyd pam yr oedd wedi datblygu’r hyder i ganu mewn perfformiad yn yr ysgol, meddai un cyfranogwr:

“I used to get bullied a lot […] then we made the CD and other students had it and obviously they’ve been listening to me then, and I just thought, do you know what, I don’t care what anyone else thinks, I’m just going to go for it, I’m not holding back any more.”