Crwydrwch drwy’r strydoedd ar don o oleuadau pefriog- SPAN yn cyflwyno’r Parêd Llusernau Eiconig - yn dychwelyd i Hwlffordd yn 2026!

Golau Te LED | Diwedd mis Hydref | Rheoli risg tân

Gan ystyried y difrod sy’n cael ei achosi ar draws y wlad gan y tanau gwyllt yr haf hwn, hoffem sicrhau i bawb fod Gorymdaith Llusernau Hwlffordd wedi’i threfnu i gael ei chynnal yr hydref hwn, ar ddiwedd mis Hydref, pan fydd y risgiau wedi lleihau’n sylweddol.

Mae’r llusernau’n cael eu dal heb eu rhyddhau ac yn cael eu goleuo gan oleuadau LED y gellir eu hailddefnyddio. Mae’r perfformiad tân terfynol wedi mynd drwy asesiad risg trylwyr a bydd yn cael ei gynnal ar arwyneb caled, ymhell oddi wrth unrhyw laswellt neu lystyfiant.

Byddwn yn adolygu risg tanau gwyllt yn barhaus ac yn edrych ymlaen at groesawu pawb yn ddiogel i fwynhau’r digwyddiad poblogaidd a hoffus hwn yn Hwlffordd ym mis Hydref.

Mae SPAN wrth eu bodd o gyhoeddi y bydd Parêd Llusernau Hwlffordd yn dychwelyd yn 2026! Ymunwch â ni wrth i ni grwydro trwy strydoedd serennog y dref ar thema Noson Galan Gaeaf, Samhain, gwyliau Cymreig a Cheltaidd sy’n nodi dechrau’r Gaeaf.

Comisiynwyd SPAN i gyflwyno paredd llusernau ar raddfa fawr yn Hwlffordd ar ddydd Gwener Hydref 30 2026.

Nod y parêd yw dod â’r gymuned at ei gilydd i ddathlu’r dref, ei phobl a Sir Benfro. Caiff y parêd a’i thema ei lunio gan y gymuned ac rydym yn chwilio am artist(iaid) i ymuno â ni ar y daith.

Gan ddechrau gyda galwad agored i artistiaid a dewis thema gan y gymuned bydd yr ymrwymiad yn parhau trwy raglen wedi’i thargedu o weithdai creu llusernau a chomisiynau llusernau mawr. Daw hyn oll i derfyn yn y parêd mawr ei hun i gyfeiliant cerddoriaeth fyw ac yn gorffen gyda pherfformiad dathlu eiconig yn seiliedig ar oleuni, gan roi enw i’r dref o ran ei hymrwymiad i ansawdd ac arloesedd ac yn gadael etifeddiaeth o falchder dinesig a chysylltiad.

Mae SPAN yn chwilio am artistiaid i gyflwyno cysyniadau gweledol ar gyfer y digwyddiad, gan ganolbwyntio ar ddylunio llusernau/pypedau mawr fel canolbwynt i’r digwyddiad.

Ysbrydolir y parêd eleni gan y thema Noson Galan Gaeaf, Samhain, y gwyliau Cymreig a Cheltaidd sy’n nodi dechrau’r gaeaf.

GALW AR ARTISTIAID

Y Broses:

Mae SPAN yn gweithio trwy gyd-greu ac yn anelu at roi llais y gymuned wrth galon y broses o wneud penderfyniadau. O’r galwad agored hwn, caiff rhestr fer o gynigion ei chyflwyno i’r  gymuned er mwyn pleidleisio ar y cysyniad y maen nhw eisiau ei weld.

Caiff y rhestr fer ei dewis gan staff SPAN a’r gymuned. Os caiff eich cynnig chi ei ddewis i fynd i’r bleidlais gyhoeddus, cewch chi’ch cefnogi gan dîm SPAN i ddatblygu adnoddau gweledol i’w gweld gan y cyhoedd. Cynhelir y bleidlais gyhoeddus ar-lein ac mewn cyfres o ddigwyddiadau cymunedol dros dro yn Hwlffordd.

 

Yna, caiff yr artist a ddewisir ei gomisiynu i weithio ochr yn ochr â SPAN i ddylunio, gwneud a thrin y llusernau fel rhan o’r parêd.

Disgwylir i’r artist arweiniol fod yn rhan o’r cyfarfodydd cynllunio a chwarae rhan weithgar gyda chydweithredwyr creadigol y digwyddiad megis perfformwyr, gwneuthurwyr ffilmiau, cerddorion a chynllunwyr goleuadau.

Yr hyn mae’n rhaid i’ch cyflwyniad ei gynnwys:

Cyflwyniad: 

Cyflwyniad 50 gair a ddefnyddir ar gyfer y bleidlais gyhoeddus os ar  y rhestr fer.

Cysyniad:

Disgrifiad hirach o’r cysyniad gweledol yn gyffredinol a sut mae’n cysylltu â’r thema Noson  Galan Gaeaf/Samhain, y gwyliau Cymreig a Cheltaidd sy’n nodi dechrau’r gaeaf, neu stori a fydd yn rhoi gwybodaeth i farchnata, hyrwyddo, a steil ehangach y digwyddiad. Caiff hwn ei ddefnyddio yn y broses o greu rhestr fer. Rydym yn gobeithio y bydd gan y syniadau berthnasedd byd-eang neu ehangach ac y bydd ganddynt adlewyrchiad lleol cryf gyda’r bobl a’r lle.

Y Gweledol: 

Cysyniad gweledol ar gyfer y llusernau/pypedau mawr a fydd yn ffurfio canolbwynt y parêd ei hun. Mae angen i’r dyluniad fod yn ymarferol ac yn gyraeddadwy, ac fe’i crëir a’i drin yn ystod y parêd gan yr artist a ddewisir fel rhan o’r comisiwn. Gallai’r rhain fod yn frasluniau, ffotograffau neu’n fwrdd syniadau, a defnyddir y delweddau hyn fel rhan o broses pleidleisio cyhoeddus os ar y rhestr fer.

Bywgraffiad:

Bywgraffiad byr o’ch profiad o gyflwyno gwaith ar y raddfa hon. Bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r rhestru byr ac fel rhan o’r bleidlais gyhoeddus.

Gallai’r cynnig hefyd gynnwys:

Dyluniad syml a all gael ei atgynhyrchu ar gyfer llusern llaw a all gael ei wneud gan y gymuned mewn gweithdai cyn y parêd ei hun. Bydd cyflwyno gweithdai gwneud llusernau sydd wedi’u canolbwyntio ar y gymuned yn rhan o gomisiwn a gaiff ei dalu ar wahân.

Ysbrydoliaeth neu awgrymiadau ar gyfer perfformiad sy’n defnyddio goleuni fel diweddglo i’r parêd cymunedol. Bydd y perfformiad hwn yn rhan o gomisiwn a gaiff ei dalu ar wahân.

Cyllideb:  

Cyfanswm y comisiwn ar gyfer dylunio, gwneud, a thrin  y llusernau/pypedau mawr, gan gynnwys yr holl ddefnyddiau, cludiant, a ffi yw £2,000.

Amserlen:

Dyddiad Cau’r alwad : Mai 16eg

Cadarnhau’r rhestr fer – wythnos yn cychwyn Mai 25ain

Pleidlais gyhoeddus: wythnos yn cychwyn Mehefin 1af ac yn agor am 3 wythnos, pleidlais yn cau Mehefin 22ain

Dyfarnu’r comisiwn: wythnos yn cychwyn Mehefin 29ain

Cyfnod creu llusernau/pypedau: Gorffennaf – Hydref

Digwyddiad parêd: Dydd Gwener Hydref 30ain

Sut i gyflwyno:

E-bostiwch eich cynnig ysgrifenedig a delweddau i’w gefnogi i info@span-arts.org.uk

Fformatau amgen: os byddai’n fwy hygyrch gallwch gyflwyno fideo gyda delweddau cynorthwyol, e-bostiwch y ffeil fideo i info@span-arts.org.uk.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â’ch cyflwyniad, cysylltwch â Bethan Morgan, Cynhyrchydd Cymunedol, yn info@span-arts.org.uk.  

 

Gwybodaeth ychwanegol:

Mae llwybr y parêd yn cael ei gwblhau’n awr mewn cytundeb â Chyngor Sir Penfro. Bydd yn teithio trwy strydoedd canol Hwlffordd ac efallai y bydd yn cynnwys rhannau lle mae uchder neu led yn gyfyngedig.

Mae’r parêd yn ddigwyddiad awyr agored, ac mae angen i’r pypedau allu goroesi tywydd drwg posibl gan gynnwys gwynt a glaw.

Ariennir y Parêd Llusernau gan Lywodraeth y DU a’i bweru gan Ffyniant Bro.

Nid oes lle ar gael i greu a storio yng nghanol y dref felly rhaid creu’r llusernau/pypedau mawr ar safle gwahanol a’u cludo i ac o’r dref ar ddiwrnod y parêd.

Scroll to Top