The BIG Plant Sale 2027

Cadwch y dyddiad!!!

Rydym wedi symud dyddiad Sêl Blanhigion 2027 i’r trydydd penwythnos yn Mai. Oherwydd ein hinsawdd gyfnewidiol a’r tywydd llai rhagweladwy, rydym wedi penderfynu symud ein sêl blanhigion blynyddol i Ŵyl y Banc ddiwedd Mai er mwyn helpu i’n tyfwyr a’n prynwyr gael y gorau o’r hyn sydd gan Sir Benfro i’w gynnig!

DYDDIAD NEWYDD! – Dydd Sadwrn15 Mai 2027 – Gŵyl y Banc Ddiwedd Mai – 10am – 3pm

Cofiwch nodi’r dyddiad, a rhannu’r newyddion gyda theulu a ffrindiau, a phobl sydd â dawn tyfu… Galw allan am dyfwyr – Rydym wedi newid dyddiad Sêl Blanhigion Fawr Arberth yn 2027!

Cynnig Cyw Cynnar i Stondinwyr

Mae Sêl Blanhigion Fawr Arberth yn ôl! Eleni mae gennym gynnig arbennig ar gyfer y tyfwyr a chynhyrchwyr anhygoel gyda’n cynnig cyw cynnar i archebu stondin. 

Archebwch erbyn  Mawrth31ain  a chael eich safle am bris cyw cynnar o £25 y stondin (3m x 3m) yn hytrach na £29. Cysylltwch â VCO@span-arts.org.uk i holi nawr.

Dyma alw ar yr holl arbenigwyr planhigion, meithrinfeydd, tyfwyr lleol a chynhyrchwyr bwthyn! Nodwch y Dyddiad ar gyfer Sêl Blanhigion FAWR Arberth a chael lle am bris gostyngedig os archebwch erbyn Mawrth 31.

Rydym yn chwilio am grefftwyr a gwneuthurwyr lleol sy’n ymwybodol o’r amgylchedd ar gyfer Sêl Blanhigion FAWR Arberth eleni. Mae croeso i grefftwyr lleol – gwehyddion, crochenwyr, gwneuthurwyr sebon, artistiaid, ac eraill, i’r sêl eleni gyda chynnig cyw cynnar yn arbennig i chi.

Dylai crefftau a chynhyrchion fod yn eco-ymwybodol  ac o waith crefftwyr, cynhyrchwyr a gwneuthurwyr lleol. Rydym wrth ein bodd o amlygu’r gorau o gynhyrchion lleol gan y crefftwyr rhyfeddol ledled Gorllewin Cymru.

 

Scroll to Top