Côr Pawb
Mae Côr Pawb nôl, ac mae’n teimlo’n Nadoligaidd iawn Mae Nadolig yn well pan fyddwn yn cyd-ganu. Ymunwch â ni ym Maenclochog am ddiwrnod gorfoleddus o garolau, caneuon tymhorol ac ysbryd cymunedol.
Dydd sul 6 Rhagfyr
10:30am to 4:30pm
Mae Côr Pawb, côr undydd poblogaidd Sir Benfro, yn dychwelyd yn Rhagfyr! Mae Celfyddydau SPAN yn falch o gyhoeddi y bydd Côr Pawb yn ôl ddydd Sul Rhagfyr 6ed ar gyfer digwyddiad côr undydd llawn llawenydd, yn gwahodd pawb i godi eu lleisiau a chydganu ar ddechrau tymor y Nadolig.
Mae’n digwydd yn Neuadd Maenclochog, ac amcan y cyfarfod cerddorol unigryw hwn yw bod yn gynhwysol, yn ddyrchafol ac yn agored i bawb. P’un ai ‘ch bod chi’n ganwr profiadol neu’n hollol newydd i gerddoriaeth gorawl, hanfod Côr Pawb yw troi fyny, ymuno, a chael hwyl.
Dan arweiniad dau arweinydd côr ysbrydoledig, Maya Waldman a Kate Davies, bydd y diwrnod yn cynnig cyfle i’r cyfranogwyr ddysgu caneuon newydd, gwrthgyferbyniol, mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar. Mae’r gweithdy’n cyrraedd yr anterth gyda rhannu anffurfiol am 4yp, lle mae teulu a ffrindiau’n cael eu gwahodd yn gynnes i ddod i fynychu a mwynhau perfformiad bach o’r hyn y mae’r grŵp wedi’i greu gyda’i gilydd yn ystod y dydd.
Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, ond mae lleoedd yn gyfyngedig ac mae’n rhaid archebu ymlaen llaw trwy wefan Celfyddydau SPAN. Anogir y cyfranogwyr i ddod â chinio parod a chwpan y gellir ei hailddefnyddio ar gyfer diodydd. Mae’r drysau’n agor am 10:00yb ar gyfer cofrestru, a bydd canu yn dechrau’n brydlon. Bydd SPAN yn gwerthu amrywiaeth o fyrbrydau a diodydd poeth (Telir pris penodedig am diodydd poeth gyda faint a fynnir o ail-lenwi), ond gofynnwn i chi ddod â’ch cinio eich hun.
Mae Côr Pawb yn fwy na sesiwn corawl – mae’n ddathliad o agosatrwydd, creadigrwydd, a’r llawenydd syml o godi’ch llais gyda phobl eraill. Ymunwch â ni am ddiwrnod twymgalon o gytgord, chwerthin, ac ysbryd cymunedol yn Maenclochog.
Manylion digwyddiad:
Dydd sul 6 Rhagfyr
Neuadd Maenclochog, SA66 7LA
10:30 AM – 4:30 PM (Mae’r drysau’n agor am 10:00 AM)
Neuadd Mileniwm Llanfallteg, Hendy-gwyn, SA34 0UN
AM DDIM. Mae archebu yn ofynnol: span-arts.org.uk