Outdoor Shakespeare - The Tempest
Gwener 14 Meh 2024 19:00
Lampeter House, near Narberth
Gan obeithio am noson heulog, cynhelir
cynhyrchiad Shakespeare awyr agored blynyddol poblogaidd SPAN eleni ar ddydd
Gwener Mehefin 14eg. Ymunwch â SPAN a'r Festival Players ar gyfer
cynhyrchiad bywiog o’r ddrama The Tempest.
Mae drama olaf a champus Shakespeare yn
gasgliad buddugoliaethus o gynllwyn, hud a hiwmor. Mae Prospero, Dug alltud
gyda phwerau goruwchnaturiol, yn creu storm fawr sy'n gweld ei elynion yn cael
eu llongddryllio ar ei ynys. Mae hud ar led, cynllwynion yn cael eu datgelu, ac
mae amrywiaeth liwgar o gymeriadau yn cael yr hyn maen nhw’n ei haeddu..
Adloniant cyfareddol.