Hysbysiadau Preifatrwydd - Span Arts
19363
page-template,page-template-full_width,page-template-full_width-php,page,page-id-19363,bridge-core-2.3.8,ajax_fade,page_not_loaded,,qode_grid_1200,footer_responsive_adv,qode-child-theme-ver-1.0.0,qode-theme-ver-22.3.1,qode-theme-bridge,qode_advanced_footer_responsive_1000,wpb-js-composer js-comp-ver-7.6,vc_responsive

Hysbysuadau Preifatrwydd

Datganiadau Preifatrwydd Celfyddydau SPAN

Mae Celfyddydau Span yn llwyr ymroddedig i warchod eich hawliau a’ch preifatrwydd ac yn sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn saff a diogel.

Mae Celfyddysau Span yn dilyn gweithdrefnau sydd â’r amcan o sicrhau fod ein holl weithwyr, ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr ac eraill sydd â mynediad at unrhyw ddata personol  a gedwir gan, neu ar ran, Celfyddydau Span yn hollol ymwybodol o’u dyletswyddau o dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR)  2018 ac yn cadw at y dyletswyddau hynny.

Os hoffech chi weld ein Polisi Diogelu Data llawn, cysylltwch â info@span-arts.org.uk os gwelwch yn dda.

Rheolir ein swyddfa docynnau ar-lein gan Ticketsolve ac fe brosesir taliadau drwy Global Payments. Caiff pob archeb, gan gynnwys rhai a wneir dros y ffôn neu’n bersonol, eu prosesu gan y systemau hyn. Global Payments yw’r cyflenwr a ffefrir gan HSBC ar gyfer prosesu cardiau yn y DU, yn awdurdodedig gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol dan y Rheoliadau Gwasanaethau Talu 2017 ac achrededig gan ardystiad Diogelwch Gwybodaeth Cyfrif gan Visa. Nid ydym yn storio manylion eich cerdyn ar ein system.

Cydsyniad Trydydd Parti

Rydym yn parchu’ch preifatrwydd ac yn gwarchod yr holl wybodaeth bersonol yr ydych yn ei rhannu pan fyddwch yn prynu tocynnau. Caiff y wybodaeth yr ydych yn ei darparu’n cael ei defnyddio gennym ni’n unig i’ch cadw chi’n hysbys o newyddion, cynnigon arbennig a digwyddiadau sydd i ddod. Fyddwn ni byth yn gwerthu unrhyw ran o’ch data na’i rhannu ag unrhyw drydydd parti, cwmni marchnata, artist neu hyrwyddwr, heb eich caniatâd. Fyddwn ni ddim yn rhannu’n cronfa ddata gyda chwmniau allanol sy’n ymwneud â marchnata. Os, ar unrhyw adeg, yr hoffech i ni dynnu’ch manylion o’n cronfa ddata, peidiwch ag oedi rhag cysylltu â ni.

 Y wybodaeth a gasglwn

Mae’n bosib y bydd Celfyddydau Span yn casglu, storio a defnyddio’r mathau isod o ddata personol.

  • Manylion trafodion a wneir wrth archebu tocynnau
  • Gwybodaeth rydych yn ei darparu i ni at bwrpasau cofrestru
  • Unrhyw wybodaeth arall rydych yn dewis ei darparu
  • Data’n ymwneud â gwirfoddoli neu gyflogaeth (yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd [DBS], cofnodion salwch, geirdaon, cydraddoldeb ac amrywiaeth, holiaduron iechyd)
  • Gwybodaeth am eich cyfrifiadur ac am eich ymweliadau â’n gwefan megis eich cyfeiriad ‘IP’, lleoliad daearyddol, math y porwr, ffynhonell yr atgyfeiriad, hyd yr ymweliad a’r nifer o ymweliadau â’r dudalen. Noder- nid yw’r wybodaeth yma’n adnabod unrhyw ddefnyddiwr unigol

Sut rydym yn defnyddio’r wybodaeth:

Byddwn yn anfon ebyst yn tynnu sylw at ddigwyddiadau i ddod neu wasanaethau a/neu ebyst ychwanegol ar gyfer ardaloedd penodol o ddiddordeb os ydych chi wedi nodi rhai. Efallai byddwn yn cysylltu â chi am ddigwyddiadau neu wasanaethau a allai fod o ddiddordeb i chi os ydych yn rhoi eich caniatâd i hyn.

Bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir ar ffurflenni adborth neu a gesglir trwy gymryd rhan yn ein prosiectau neu fel rhan o’n cynllun Cyfeillion, yn cael ei ddefnyddio gennym ni yn unig i wella’n gwasanaethau ac i fod o gymorth i ni ddeall ein cynulleidfa’n well. Caiff y wybodaeth a gesglir ei dadansoddi a’r data demograffig (nid data personol) eu rhannu gyda’n cyllidwyr er mwyn ein helpu ni i ennill cefnogaeth i’n gwaith. Caiff data personol eu cadw’n ddiogel a’u trin yn gyfrinachol yn unol â rheoliadau GDPR.

Caiff gwybodaeth a gesglir o ganlyniad i gyflogaeth neu wirfoddoli (gan gynnwys Ymddiriedolwyr) gyda Chelfyddydau Span eu prosesu at bwrpasau gweinyddol, cyfreithiol, rheoleiddiol neu reoli yn unig. Byddwn ond yn rhannu gwybodaeth ddienw am wirfoddolwyr gyda’n cyllidwyr er mwyn cyflwyno gwybodaeth am niferoedd a demograffig ein gwirfoddolwyr. Caiff data personol eu storio’n ddiogel a’u trin yn gyfrinachol yn unol â rheoliadau GDPR. Cedwir data trwy gydol y cyfnod y byddwch yn weithgar gyda Chelfydydau Span ac am gyfnod o 6 blynedd ar ôl hynny yn unol â’n Polisi Cadw Data.

 

Caiff gwybodaeth am artistiaid ei brosesu at ddibenion gweinyddol a rheoli yn unig. Caiff ei storio’n ddiogel a’i drin mewn modd cyfrinachol. Cedwir data trwy gydol y cyfnod y byddwch yn weithgar gyda Chelfydydau Span ac am gyfnod o 6 blynedd ar ôl hynny yn unol â’n Polisi Cadw Data.

Os hoffech chi weld ein Polisi Cadw Data yn ei gyfanrwydd,  cysylltwch â info@span-arts.org.uk  os gwelwch yn dda.

Os ydych yn credu bod problem gyda’r modd y mae Celfyddydau Span yn trin eich data mae gennych yr hawl i gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).

Cwcis

Rydym  yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. Ffeil testun a anfonir gan weinydd gwe i borwr gwe a’i storio gan y porwr yw cwci. Yna, anfonir y ffeil testun yn ôl i’r gweinydd bob tro mae’r porwr yn gofyn am dudalen gan y gweinydd. Mae hyn yn galluogi’r gweinydd i adnabod a thracio’r porwr.

Mae cwcis yn angenrheidiol i’r broses o archebu’ch tocyn trwy’n gwefan gan ddefnyddio’r system Ticketsolve; rhywbeth dros dro ydynt fodd bynnag a byddant yn diflannu pan fyddwch yn gorffen eich sesiwn.

Efallai byddwn yn anfon cwci a gaiff ei storio ar yriant caled eich cyfrifiadur a defnyddio’r wybodaeth a gawn ar gyfer gweinyddu a gwella’r wefan.

 

Allwn ni ddim cymryd cyfrifoldeb dros gwcis yn perthyn i nodweddion trydydd parti megis Facebook, Twitter, Google ayb. Mae gan drydydd partïon eu polisïau eu hunain parthed cwcis ar eu gwefannau.

Mae’n bosib y byddwn yn defnyddio Google Analytics i ddadansoddi’r defnydd o’n gwefan. Mae hyn yn defnyddio cwcis i gynhyrchu gwybodaeth ystadegol . Defnyddir y wybodaeth a gynhyrchir i greu adroddiadau am y defnydd o’n gwefan. Bydd Google yn storio’r wybodaeth yma hefyd.

Datdanysgrifio

Os hoffech chi ddatdanysgrifio o’n ebyst, neu newid neu ddiweddaru’ch gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni’n uniongyrchol os gwelwch yn dda, defnyddiwch y cysylltau ar waelod ebyst neu mewngofnodwch i’ch cyfrif Ticketsolve i ddiweddaru’ch gwybodaeth.

Diwygiadau

Cadwn yr hawl i ddiweddaru’r polisi yma drwy bostio fersiynau newydd ar ein gwefan. Dylech ymweld â’r dudalen yn rheolaidd i sicrhau eich bod yn hapus gyda newidiadau, Byddwn hefyd, o bosib, yn eich hysbysu am newidiadau i’r polisi trwy ebost.