The Zoo That Comes To You!
Lleoliad: Caban y Sgowtiaid, Arberth
Dyddiad: Dydd Mercher Gorffennaf 22ain
Amser: 12-1pm
Tocynnau: Talwch yr hyn y gallwch – o £5
Mae The Zoo That Comes to You yn dilyn ymdrechion angerddol dau sy’n selog dros anifeiliaid i rannu eu cariad at anifeiliaid a’u pryder drostynt gyda’r byd. Maen nhw’n derbyn anifeiliaid sydd angen seibiant, gofal neu gartref dros dro ac wedi dod, trwy ddamwain, yn berchen ar warchodfa gyfan, ond heb unrhyw ymwelwyr! Felly mae pawb – anifeiliaid a phobl fel ei gilydd – wedi penderfynu ei bod hi’n amser mynd allan, gweld y byd, a dod â’r sŵ atoch chi. Dewch i gyfarfod â’r grŵp amrywiol hwn o anifeiliaid dymunol ond eofn, wrth iddyn nhw drafod eu profiadau bywyd a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu mewn byd sy’n newid yn gyflym. Mae ganddynt lawer i’w ddweud ac maen nhw eisiau ysbrydoli pobl o bob oed i weithredu, oherwydd maen nhw’n gwybod y gall gweithredoedd bach wneud gwahaniaeth mawr yn y byd. Gyda phypedwaith, cerddoriaeth fyw a chymeriadau chwareus, mae Theatr Scarlet Oak yn gwahodd pawb i ymuno â’r sgwrs am gadwraeth anifeiliaid.
Hyd y perfformiad: 60 munud. Addas i oed 5+ ond rydym yn croesawu cynulleidfaoedd ac oedolion digwmni!



