Galwad am Gorau Cymunedol: Gŵyl A Cappella Arberth 2025
Galwad am Gorau Cymunedol: Gŵyl A Cappella Arberth 2025 Mae Celfyddydau SPAN yn falch i gyhoeddi galwad i Gorau Cymunedol berfformio yng Ngŵyl A Cappella Arberth 2025! Mae’r digwyddiad unigryw hwn, yn dathlu lleisiau a cappella, yn denu torfeydd o bob cwr o’r DU ac yn cynnig cyfle gwych i gantorion arddangos eu talentau. Dyddiad Digwyddiad: Cynhelir y cyngerdd terfynol am 7yh ddydd Sadwrn Mawrth 8fed 2025 Lleoliad: Cynhelir y digwyddiad yn Eglwys Sant Andreas, Arberth Slot Perfformio: Bydd pob côr a ddewisir yn cael slot 20 munud i berfformio Cyflwyno Cais: e-bostiwch samplau perfformiad, ffotograff a fideo i info@span-arts.org.uk erbyn Tachwedd 29 2024. Dyddiad Cau: Sicrhewch fod eich cais yn cael ei anfon erbyn Tachwedd 26ain 2024. Sut i ymgeisio Anfonwch ddewis o samplau sain o’ch repertoire ochr yn ochr â ffotograff a fideo o’ch côr yn perfformio i fideo i info@span-arts.org.uk erbyn Tachwedd 29 2024. Ynglŷn â’r Ŵyl Gŵyl A Cappella Arberth, wedi’i threfnu gan Gelfyddydau SPAN, yw’r unig ddathliad o leisiau a cappella yng Nghymru. Gyda dros 25 mlynedd o hanes, bydd gŵyl 2025 yn canolbwyntio ar leisiau cymunedol yn y Wledd Ganu boblogaidd a gweithdai lleisiol dan arweiniad ymarferwyr o fry rhyngwladol. Ynglŷn â Chelfyddydau […]











