Cyngerdd yr Adfent 2026
Dewch i ddathlu tymor y Nadolig yn y cyngerdd blynyddol i nodi dechrau’r Adfent a drefnir gan Gelfyddydau SPAN a Menter Iaith Sir Benfro. ARCHEBWCH Mae Celfyddydau SPAN a Menter Iaith Sir Benfro wrth ei bodd i gyhoeddi dychweliad ein cyngerdd blynyddol i ddathlu’r Adfent yng nghapel Pisga ddydd Sul, 29 Tachwedd 2026. Mae’r digwyddiad poblogaidd hwn yn dathlu’r gorau o gerddorion Cymraeg lleol ac yn arwydd gwirioneddol bod y cyfrif i lawr at y Nadolig wedi cychwyn yn Sir Benfro. Rydym wrth ein bodd i gael y bas-bariton Caleb Nicholas yn ymuno â ni. Mae Caleb yn ganwr ac yn feddyg wedi’i leoli yng Nghaerdydd ond yn wreiddiol o Efailwen, Sir Benfro. Mae’n dalent ddisglair ar sîn gerddorol Cymru, wedi ennill Gwobr Fawreddog Ysgoloriaeth Osborne Roberts y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol 2025 ar ôl cipio’r lle cyntaf yn y gystadleuaeth bas-bariton dan 25. Dychwelodd i lwyddiant mawr yn Eisteddfod Genedlaethol 2026, lle’r oedd wrth ei fodd i ennill Gwobr David Ellis ar ei filltir sgwâr. Rydym hefyd wrth ein bodd cael Côr Crymych a’r Cylch yn ymuno â ni ynghyd a’u cyfarwyddwr cerddorol Catrin Davies, â’u cyfeilyddes Elin Ennis. Sefydlwyd y côr cymysg hwn yn gynnar yn 1950au […]



















