Shield
Shield –Digwyddiad unigryw sy’n archwilio dadwladychu ein profiad o natur trwy gerflunwaith, storïa a cherddoriaeth, mewn comisiwn Straeon Cariad at Natur.
Gan Dea Neile-Hopton
Mae Celfyddydau SPAN yn falch o gyhoeddi Tarian – Cynulliad Cymunedol Straeon Cariad at Natur – digwyddiad ymdrochol rhad ac am ddim, sy’n digwydd yn Sir Benfro ar Ionawr 31ain 2027 fel rhan o gomisiynau Straeon Cariad at Natur Celfyddydau SPAN.
Gan archwilio themâu megis gwladychu, mudo, hil a chyfiawnder hinsawdd, mae Tarian yn codi cwestiynau dwys am ddiogelu, perthyn a chyfrifoldeb. Mae’r digwyddiad yn edrych ar ffyrdd o dadwladychu’r ffordd rydym yn deall ac yn rhyngweithio â thirlun a’r amgylchedd, gan dynnu ysbrydoliaeth o safbwyntiau’r Cenhedloedd Cyntaf sy’n gosod pobl a natur fel rhan o gyfanrwydd cydgysylltiedig. Wedi ei osod yng nghoetir hynafol yng Nghanolfan yr Urdd, Pentre Ifan, bydd y cynulliad yn cynnig archwiliad pwerus a chreadigol o’n perthynas â natur trwy gerflunwaith, barddoniaeth, storïa cymunedol, theatr a cherddoriaeth.
Mae’r digwyddiad yn rhan o’r datblygiad celfyddydol ehangach Tarian, prosiect aml-ddisgyblaethol newydd o bwys gan yr artist Dea Neile-Hopton, wedi’i gomisiynu trwy Unlimited Wales. Er ei fod wedi’i gysylltu gyda datblygiad parhaus Tarian, mae’r cynulliad yn ddigwyddiad cymunedol annibynnol wedi’i gynllunio i greu lle i fyfyrio, sgwrsio a chreu dychymyg ar y cyd am ein dyfodol cyffredin.
Bydd Tarian – Cynulliad Cymunedol Straeon Cariad at Natur — yn nodi’r cyflwyniad cyhoeddus cyntaf o’r cerfluniau Tarian sy’n cael eu datblygu. Trwy gydol y prynhawn gwahoddir i’r cynulleidfaoedd brofi darlleniadau o gasgliad o gerddi coedwigoedd a ysgrifennwyd dros chwe mis o ymgysylltu tymhorol gyda choedwigoedd Cymru. Mewn cydweithrediad â Theatr Playback, anogir aelodau’r gymuned wedyn i rannu straeon, atgofion a myfyrdodau a ysbrydolwyd gan eu perthynas â natur. Yna caiff y cyfraniadau hyn eu troi’n berfformiad byw ddifyfyr, gan greu profiad theatrig cyfranogol dwys ac unigryw. Wrth i olau dydd bylu, bydd y cynulliad yn dod i ben gyda pherfformiad arbennig gan Gôr Un Llais, yn dathlu cysylltiad, cymuned a chytbwysedd drwy’r gân.
Bydd ffilmio yn digwydd drwy gydol y digwyddiad ac fe fydd yn cyfrannu at y rhaglen ddogfen sy’n cael ei chreu fel rhan o gomisiwn Unlimited ac at ffilm annibynnol Straeon Cariad at Natur, gan roi cyfle i’r straeon a’r profiadau a rhannwyd ar y diwrnod gyrraedd cynulleidfaoedd ehangach.
Mae’r digwyddiad hwn AM DDIM, ond mae’n debyg y bydd yn gwerthu allan, felly archebwch eich lle ymlaen llaw ar wefan SPAN, span-arts.org.uk, neu ffoniwch 01834 869323. Am wybodaeth am hygyrchedd, cysylltwch â info@span-arts.org.uk.
Manylion Digwyddiad:
Tarian – Cynulliad Cymunedol Straeon Cariad at Natur
Dyddiad: Ionawr 31ain 2027
Amser: 2pm – 5pm
Lleoliad: Canolfan yr Urdd, SA41 3XE
Tocynnau: AM DDIM
Beth yw Tarian?
Mae Tarian yn brosiect cerfluniol aml-ddisgyblaethol gan Dea Neile-Hopton sy’n archwilio sut mae hiliaeth, ableddiaeth a gor-gloddio adnoddau’n torri ar draws ei gilydd. Trwy chwe cherflun ar raddfa fawr a ffilm ddogfen, mae’r prosiect yn archwilio natur wleidyddol diogelu, gan ofyn pwy sy’n diffinio ffiniau, pwy sy’n dwyn costau newid amgylcheddol, a dyfodol pwy sydd wedi’i flaenoriaethu. Yn weledol drawiadol ac yn wleidyddol frys, mae Tarian yn gwahodd cynulleidfaoedd i ystyried cyfiawnder, gofal a chyfrifoldeb cyfunol mewn byd sy’n newid yn gyflym.
Am ragor o wybodaeth am brosiect Straeon Cariad at Natur ac i archebu tocynnau, ewch i www.span-arts.org.uk.