Dewch i ddathlu tymor y Nadolig yn y cyngerdd blynyddol i nodi dechrau’r Adfent a drefnir gan Gelfyddydau SPAN a Menter Iaith Sir Benfro.
Mae Celfyddydau SPAN a Menter Iaith Sir Benfro wrth ei bodd i gyhoeddi dychweliad ein cyngerdd blynyddol i ddathlu’r Adfent yng nghapel Pisga ddydd Sul, 29 Tachwedd 2026. Mae’r digwyddiad poblogaidd hwn yn dathlu’r gorau o gerddorion Cymraeg lleol ac yn arwydd gwirioneddol bod y cyfrif i lawr at y Nadolig wedi cychwyn yn Sir Benfro.
Rydym wrth ein bodd i gael y bas-bariton Caleb Nicholas yn ymuno â ni. Mae Caleb yn ganwr ac yn feddyg wedi’i leoli yng Nghaerdydd ond yn wreiddiol o Efailwen, Sir Benfro. Mae’n dalent ddisglair ar sîn gerddorol Cymru, wedi ennill Gwobr Fawreddog Ysgoloriaeth Osborne Roberts y Rhuban Glas yn Eisteddfod Genedlaethol 2025 ar ôl cipio’r lle cyntaf yn y gystadleuaeth bas-bariton dan 25. Dychwelodd i lwyddiant mawr yn Eisteddfod Genedlaethol 2026, lle’r oedd wrth ei fodd i ennill Gwobr David Ellis ar ei filltir sgwâr.
Rydym hefyd wrth ein bodd cael Côr Crymych a’r Cylch yn ymuno â ni ynghyd a’u cyfarwyddwr cerddorol Catrin Davies, â’u cyfeilyddes Elin Ennis. Sefydlwyd y côr cymysg hwn yn gynnar yn 1950au ac mae wedi cael llwyddiannau nodedig dros y blynyddoedd, gan gynnwys ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol sawl gwaith. Mae’r côr wedi perfformio mewn cyngherddau ledled Cymru a thu hwnt ac wedi cystadlu a pherfformio yn Eisteddfod y Garreg Glas eleni.
Cynhelir y Cyngerdd Adfent poblogaidd hwn yn flynyddol yng Nghapel adnabyddus Pisga, Llandysilio. Mae’n addo gwledd o gerddoriaeth Gymraeg wych gan estyn croeso i siaradwyr a dysgwyr y Gymraeg a’r rheini nad ydynt yn medru’r iaith i fwynhau’r digwyddiad hudolus Cymraeg hwn.
Bydd tocynnau ar gael ymlaen llaw trwy wefan Celfyddydau SPAN, ac ar y drws, ond rydym yn argymell eich bod yn archebu gan ei bod yn debyg y bydd y digwyddiad hwn werthu allan. Mae lleoedd eistedd hygyrch ar lawr gwaelod y capel; cysylltwch ag info@span-arts.org.uk i drafod hygyrchedd ac i archebu sedd hygyrch.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01834 869323, ewch i span-arts.org.uk neu cysylltwch ag info@span-arts.org.uk.
Manylion Digwyddiad
Dydd Sul Tachwedd 29 2026
Drysau’n agor: 4:30pm
Amser dechrau: 5pm
Lleoliad: Capel Pisga, Llandysilio, Sir Benfro. SA66 7TF
Pris: Llawn £12, Consesiwn £10 .
Archebu: Argymhellir archebu ymlaen llaw. Ewch i span-arts.org.uk i archebu.