We, The Body

Mae Ni, Y Corff, comisiwn diweddaraf Straeon Cariad at Natur Celfyddydau SPAN, yn dod â symudiad, ffilm a gwaith maes at ei gilydd i archwilio prinder dŵr, argyfwng hinsawdd a’n perthynas newidiol gyda natur.

Mae Celfyddydau SPAN yn llawn cyffro i’ch gwahodd chi i ymuno â’n Prosiect Natur diweddaraf – Ni, y Corff. Mae’r prosiect hwn yn cyfuno ffilm, symudiad a gwaith maes mewn gweithdai cymunedol i archwilio ein perthynas â dŵr fel bod byw sy’n ceisio adrodd ei straeon i ni.

Mae’r prosiect dan arweiniad tair artist ifanc: Hattie Morrison, Leia Morrison ac Angharad Lewis Jones. Mae Hattie yn artist sy’n gweithio ar draws meysydd ysgrifennu, ffilm a chreu llyfrau. Mae Leia yn ffotograffydd a gwneuthurwr ffilmiau wedi’i lleoli ar draws Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin. Mae Angharad yn grefftwr theatr corfforol ac yn hwylusydd perfformiadau.

Mae Ni, Y Corff  wedi datblygu o ganlyniad i ymwybyddiaeth gynyddol o brinder dŵr. Wrth i waharddiadau ar ddefnyddio pibellau dŵr , sychder a thanau gwyllt ddod yn realiti na ellir ei anwybyddu ledled Cymru, mae’r prosiect hwn yn archwilio sut mae natur yn ceisio siarad â ni ac yn cynnig lle i wrando. Mae symudiad ac iaith yn ganolog i’r broses hon, gan agor y sgwrs hon gyda’r corff dŵr Cronfa Ddŵr Llys-y-frân. Byddwch yn cysylltu â’r dŵr drwy weithdy’n seiliedig ar ystumiau a dawns a sesiwn nodiadau maes dan arweiniad ar y safle.

Bydd y gweithdy cyntaf – Llyfrgell Ddŵr –  ar Ddydd Mawrth y 13eg o Hydref, rhwng 1:30yp-3:30yp. Ymunwch â Hattie ar gyfer gweithdy nodiadau maes, gan gerdded o gwmpas y gronfa ddŵr a chasglu gwrthrychau a nodiadau am ddŵr a’i amgylchedd. Mae’r ail weithdy’n canolbwyntio ar symudiad a ffilm ac yn digwydd ar Ddydd Mawrth yr 20fed 1:30yp-3:30yp. Fe’ch gwahoddir i fod yn rhan o sesiwn wedi’i seilio ar ddawns i greu ymateb sinematig Super 8 i’r gronfa ddŵr, dŵr a themâu’r prosiect. Nid oes angen profiad i gymryd rhan. Mae’r ddwy sesiwn yn rhad ac am ddim ac yn digwydd yng Nghronfa ddŵr Llys-y-frân. Archebwch eich lle ar span-arts.org.uk os gwelwch yn dda. Nid oes angen mynychu’r ddau weithdy.

 

Yn y Flwyddyn Newydd, ar adeg o adnewyddu a momentwm, gwahoddir y gymuned i edrych yn ôl ar y prosiect hwn wrth i ni ddangos y gwaith a grëwyd, gan gynnwys dangosiad cyntaf y  ffilm Super 8. Mae’r rhannu yn digwydd yng Nghelfyddydau SPAN Arberth ar ddydd Mercher 13 Ionawr 2027.

Manylion digwyddiad:

Mae pob digwyddiad AM DDIM
Archebu’n hanfodol

Gweithdy 1 – Llyfrgell Ddŵr:
Dydd Mawrth Hydref 13eg
1:30yp-3:30yp
Cronfa Ddŵr Llys-y-frân, SA63 4RR

Gweithdy 2 – Symudiad a ffilmio
Dydd Mawrth Hydref 20fed
1:30 yp-3:30yp
Cronfa Ddŵr Llys-y-frân SA63 4RR

Agor yr Arddangosfa
Dydd Mercher Ionawr 13eg
Celfyddydau SPAN Arberth. SA67 7AG

Scroll to Top