Love Stories To Nature – Writing the Wild: Poetry Treasure Hunt

Mae Celfyddydau SPAN yn comisiynu gwaith newydd ar gyfer ein prosiect ‘Straeon Cariad at Natur’ ac yn gwahodd artistiaid ac ymarferwyr creadigol i gyflwyno eu syniadau. Bydd y gwaith comisiwn yn cael ei greu yn benodol ar gyfer, ac mewn cydweithrediad â, Chelfyddydau SPAN.

Croes oi Helfa Drysor Farddoniaeth Straeon Cariad at Natur!

Trwy gydol Gorffennaf ac Awst 2026 

Wedi eu cuddio ar draws Sir Benfro mae pum cerdd ac un gerdd fonws pob un wedi’i gosod mewn bocs trysor bach sy’n cynnwys cerdd, llyfr nodiadau, pensel a naddwr

Nid oes taith benodol -chi sydd yn dewis ble i gychwyn, lle i fynd nesaf a sawl un rydych yn dewis dod o hyd iddynt.

Darllenwch y cliwiau isod, defnyddiwch y lleoliad what3words bant â chi ar antur!

Writing the Wild – Te Parti

Ymunwch â ni ar Fedi 30ain i ddathlu Ysgrifennu’r Gwyllt gyda The Parti, arddangosfa a darlleniadau cerddi gan Feirdd Arberth!

Rydym yn edrych yn ôl ar y comisiwn gwych Straeon Cariad at Natur gyda Beirdd Arberth wrth i ni arddangos y cerddi cariad at natur hyfryd a theimladwy hyn a grëwyd ganddyn nhw a chithau.

Dros yr haf hwn, cawsoch eich gwahodd i gerdded, crwydro, chwilio, a sgrialu eich ffordd o gwmpas ein sir odidog wrth chwilota cerddi aur. Dan yr isdyfiant, mae 6 bocs trysor yn cynnwys cerddi wedi ymgartrefu yng ngwyllt y sir, yn aros i gael eu darganfod. Gyda phob cerdd a ddarganfuwyd, rydych chi wedi gadael ymatebion bach i’r cerddi a’r lleoedd. Mae Beirdd Arberth wedi defnyddio’r ymatebion hyn i greu’r gerdd gydweithredol orau posibl a gaiff ei rhannu am y tro cyntaf yn y te parti, gan nodi diweddglo’r prosiect gwych yma.

Gyda lluniaeth ysgafn blasus a chroeso cynnes i bawb, pa ffordd well sydd i edrych yn ôl ar haf o anturiaethau barddonol?

Yn digwydd yn adeilad Celfyddydau SPAN rhwng 4:30 pm a 6:30 pm, rydym yn eich croesawu i ymuno â ni am ran o’r dathliad neu’r cyfan. Mae’r digwyddiad dathlu yn  RHAD AC AM DDIM, ond gofynnwn i chi archebu tocyn ar span-arts.org.uk i gadw’ch lle.

Mae’r adeilad yn hygyrch. Os oes gennych unrhyw anghenion mynediad yr hoffech eu trafod, cysylltwch â info@span-arts.org.uk.

 

How it works

  1. Choose a poem from the list below
  2. Use the clue and what3words to help you find the location
  3. Discover the box and read the poem
  4. Respond in the notebook — words, drawings, thoughts or doodles are all welcome. 
  5. Return it to the box & put it back where you found it. 
  6. Tag your visit and response with @spanartsnarberth @narberth_poets (Instagram) or @spanarts (Facebook)  to help share the journey

Please do not remove the contents of the boxes so others can enjoy them too.

The Narberth Poets will use your responses to create a brand-new collaborative poem, to be revealed on 30 September at a special afternoon tea celebration.

Y Cerddi

Cerdd 1 — Bean Sawyer

Cliw: “Ble mae Waldo?”

what3words: ///secretly.sneezed.beanbag

Hygyrch i gadair olwyn

Parcio ar gael

Cerdd 2 — Christian Donovan

Cliw: Ymlaciwch ychydig ar y fainc bren enfawr. Edrychwch i lawr ac o dan…

what3words: ///office.reduce.juicy

Mynediad cadair olwyn cyfyngedig

Cerdd 3 — Jackie Biggs

Cliw: Mae digonedd o hwyaid yn y gwlypdir dan warchodaeth yma – chwiliwch am y guddfan ac fe gewch weld!

what3words: ///standards.plays.otter

Hygyrch i gadair olwyn

Parcio ar gael

Cerdd 4 — Jean Riley

Clue: Tanc! Cafn! Casgen! Ond gan ba(ril!) un mae’r hud?

what3words: ///magically.hurry.boldest

Hygyrch i gadair olwyn

Parcio ar gael yn gyfagos

Ar agor Ddydd Llun- Dydd Sadwrn

10am- 4pm 

NID AR DDYDD SUL

Cerdd 5 — Jane Campbell

Cliw: Yn gyntaf chwiliwch am y pysgodyn sy’n llyncu llygredd  plastig. Yna trowch tuag at y ffordd ac edrychwch y tu ôl i garreg fawr…

what3words: ///reflected.perfectly.shrug

Hygyrch i gadair olwyn

Parcio ar gael yn gyfagos

Bonus Poem

Details revealed when you’re out exploring…

Beth sydd yn y bocs?

I’ch helpu ar eich helfa drysor, dyma beth fyddwch chi’n ei ddarganfod y tu mewn i bob bocs barddoniaeth:

  • Y gerdd
  • Llyfr nodiadau
  • Pensel
  • Naddwr
  • Cyfarwyddiadau

.

Rydym yn eich gwahodd i ddarllen y gerdd cymaint o weithiau ag y dymunwch, yna ymateb yn y llyfr nodiadau. Gall eich ymateb fod ar ffurf geiriau, lluniau, dŵdl, myfyrdodau – beth bynnag yw’ch ymateb i’r gerdd.

Tynnwch ffotograff o’ch ymateb os gwelwch yn dda a thagio @ spanartsnarberth @narberth_poets (Instagram) neu @spanarts (Facebook) er mwyn i ni rannu’ch darganfyddiadau a helpu i ni ledaenu’r gair. Po fwyaf y bobl sy’n ymuno â’r helfa y gorau!

Cynlluniwch eich helfa drysor

Rhannwch eich taith

Bydden wrth ein bodd i weld beth rydych yn ei ddarganfod.

Tynnwch ffotograffau o’ch ymweliad a’ch ymatebion a thagio @ spanartsnarberth @narberth_poets (Instagram) neu @spanarts (Facebook) er mwyn i ni rannu’ch anturiaethau (ond peidiwch â datgelu’r union fannau cuddio).

Ymunwch â’r antur.

Dyma ddathliad o gerddi, lleoedd, a chreadigrwydd yn y gwyllt.

Cerddwch, archwiliwch, darganfyddwch, ymatebwch a gweld beth mae Sir Benfro yn ei ysbrydoli ynoch chi.

 Mwynhewch y chwilota!

 Cliciwch yma i fynd i Dudalen Prosiect Straeon at Natur i ddarganfod mwy am ein comisiynau eraill.

Scroll to Top