project

current project, join in, project

Theatr Soffa

Gallwch nawr wylio perfformiad gwych o: Chwedlau o'r Normal Newydd: Dod o Hyd i Mi Mewn Môr o Newid. Isod mae dau ddangosiad, y ddau gydag isdeitlau Cymraeg a'r ail gyda dehonglydd BSL. Os hoffech weld y ffilm gydag isdeitlau Saesneg, cliciwch ar y botwm ‘CC’ wrth ymyl y botwm cyfrol yn y gornel dde ar y gwaelod. Sylwch fod y ddrama hon yn addas am oedran 14+ oed ac cynnwys y rhybuddion sbardun canlynol: trafodaeth am farwolaeth, trafodaeth am fesurau COFID-19 a brechiadau, trafod cyfrifoldebau gofalu a chyflyrau iechyd hirdymor, trafodaeth am iechyd meddwl, trafodaeth am ganser, rhegi.  “Mae’r rhaglen a luniwyd gan Span wedi fy helpu drwy roi rheswm i mi gadw fy mywyd mor normal â phosibl, rheswm i godi o’r gwely, gwisgo a chael eillio!” “Roeddwn i’n teimlo fy mod wedi cau i ffwrdd ond mae’r prosiect wedi rhoi bywyd cwbl newydd i mi”   Roedd y prosiect mor llwyddiannus fel bod y cast a'r criw yn awyddus i ddechrau gweithio ar dri drama arall yn yr Hydref 2020. Roedd y cyntaf yn ail-greuad hynod o frwdfarol o Dracula. Roedd yr ail yn ddarn ysgrifennu gwreiddiol a wnaed gyda'r gymuned dan arweiniad Ceri Ashe a elwid [...]
completed project

Celfyddydau o Bell

Rhaglen gelfyddydol arlein gan gadw pellter cymdeithasol er mwyn lleihau ynysiad ac unigrwydd, lleddfu gofidiau, straen a diflastod, ac adeiladau rhwydweithiau cymdeithasol yn Sir Benfro ar adeg COVID-19. Mae’r rhaglen wedi bod o gymorth i Span i ymateb i’r argyfwng ac adeiladu’n gwydnwch. Datblygwyd y rhaglen yn unol â’n gweledigaeth o Gelf ar gyfer newid cymdeithasol yng Nghymru wledig ac i fanteisio ar rym celf i wneud i bobl deimlo’n well. Rhwng Gorffennaf a Rhagfyr 2020 cyflawnodd Span rhaglen gynhwysol a chyrhaeddbell ar gyfer pobl Sir Benfro gan gyrraedd 9,000 o bobl yn y sir a thu hwnt, yn cyflwyno’r celfyddydau gyda gweithdai creadigol ar-lein a pherfformiadau theatr gymunedol wedi’u ffrydio’n fyw.   “Being stuck at home because of the lock down and because I am a single mum means my opportunities to do anything like this has been limited. It was great to be able to do this from home and also not have the issue of having to travel.” "Heartwarming and honest” "Original, exciting, uplifting”
completed project, project

Creu a Chysylltu

Mae gwirfoddolwyr wedi chwarae rhan hollbwysig yng ngwaith Celfyddydau Span erioed, fedrem ni ddim bodoli hebddynt. Mae llawer o’n gwirfoddolwyr naill ai’n byw gyda chyflwr iechyd meddwl (45%+), yn 65 oed neu’n hŷn, neu’n byw ar eu pennau eu hunain, sy’n golygu fod ein tîm o wirfoddolwyr yn perthyn i grŵp bregus wedi’u huno gan ddiddordeb cyffredin yn y celfyddydau yn hytrach na gan ddaearyddiaeth. Er bod gan Gelfyddydau Span rhaglen wirfoddoli hirsefydlog, rydym wedi bod yn rhedeg Creu a Chysylltu, ein Prosiect Gwirfoddolwyr, wedi’i ariannu gan gronfa Gwella Sir Benfro, ers Ionawr 2019. Cyllid a godwyd gan Dreth Ail Gartrefi Cyngor Sir Penfro yw Gwella Sir Benfro ac mae wedi bod o gymorth i Gelfyddydau Span i ymestyn ein Cynllun Gwirfoddolwyr ar draws y sir ac i gyrraedd ardaloedd newydd sydd wedi eu heffeithio’n arw gan berchenogaeth ail-gartrefi. Mae Creu a Chysylltu yn creu mwy o gyfleoedd i wirfoddolwyr gymryd rhan yn y celfyddydau trwy brofiadau gwirfoddoli diddorol ac yn helpu pobl i gyfrannu at adfywiad a chyfoethogi bywyd yn ein cymunedau. “I'd just like to say that I've volunteered for a couple of other organisations and that the experience as a volunteer with Span has been by far
completed project

Map Digi Penfro

Map digidol ar-lein yw Map Digi Penfro sy’n caniatáu i bobl gofnodi gwybodaeth sy’n bwysig iddyn nhw am leoliadau lle maen nhw’n byw neu’n teithio drwyddynt. Gellir cofnodi gwybodaeth ar ffurf testun neu ddelwedd gan gynnwys ffotograffau, lluniau, recordiadau sain- hyd yn oed ffilmiau byrion gan gofnodi persbectif, atgofion, straeon, data ayb am y lleoliad. Gweld y map. Datblygwyd y prosiect yn ystod 2019 fel rhan o Span Digidol, ein prosiect celf digidol dwy flynedd gan gychwyn gyda phenwythnos dwys yng Ngarn Fawr yng Ngorffennaf 2019 gyda gweithdai undydd i ddilyn yn Arberth, Aber Llydan a Threfdraeth.. Ym mhob achlysur aeth criw o blant ysgol a /neu drigolion lleol am dro yn eu milltir sgwâr gan gofnodi pethau ar y map yn ymwneud â hanes lleol, natur, daeareg a’u hatgofion ac argraffiadau nhw eu hunain. O ganlyniad mae gennym argraff gyfareddol, amlweddog o’r lleoliad. A chawsom lawer o hwyl yn ei greu! Erys y map ar-lein fodd bynnag, ac mae’n dal yn bosibl ychwanegu ato. Mae’n hawdd iawn i’w ddefnyddio ac mae cyfarwyddiadau ar y safle. Sut i gymryd rhan Os ydych yn gaeth i’ch cartref ac yn chwilio am rywbeth i’w wneud beth am fwrw golwg ar y map? Mae llawer
completed project

Corau Gofalgar

Rhaglen o weithdai canu mewn lleoliadau gofal yn Sir Benfro yw Corau Gofalgar  gan dargedu pobl hŷn a rhai sy’n byw gyda dementia. Mae’r gweithdai wedi’u cynnal, pan mae ariannu wedi caniatáu hynny, ers 2015. Mae Corau Gofalgar yn manteisio ar rym adferol canu i gyflawni budd cadarnhaol o ran iechyd meddwl a chorfforol. Mae’r rhaglen yma o weithdai canu wedi ei phrofi ei hun yn llwyddiant enfawr ac yn arf bwerus i wella llesiant. "Having the singing in the lounge has been like a ray of sunshine on a grey day."
current project

Côr Pawb

Côr Pawb Mae Celfyddydau SPAN wrth eu bodd o gyhoeddi y bydd Côr Pawb yn cynnal digwyddiad corawl undydd llawn llawenydd gan wahodd pawb i godi eu lleisiau a chydganu i ddathlu cymuned, creadigrwydd, a chysylltiad. Mae’n digwydd yn HaverHub, lleoliad cymunedol bywiog yng nghanol Hwlffordd, amcan y  cyfarfod cerddorol unigryw hwn yw bod yn gynhwysol, yn ddyrchafol ac yn agored i bawb. P’un ai ‘ch bod chi’n ganwr profiadol neu’n hollol newydd i gerddoriaeth gorawl, hanfod Côr Pawb yw troi fyny, ymuno, a chael hwyl. Dan arweiniad dau arweinydd côr ysbrydoledig, bydd y diwrnod yn cynnig cyfle i’r cyfranogwyr ddysgu caneuon newydd, gwrthgyferbyniol, mewn amgylchedd hamddenol a chyfeillgar. Mae’r gweithdy’n cyrraedd yr anterth gyda rhannu anffurfiol am 4yp, lle mae teulu a ffrindiau’n cael eu gwahodd yn gynnes i ddod i fynychu a mwynhau perfformiad bach o’r hyn y mae’r grŵp wedi’i greu gyda’i gilydd yn ystod y dydd.   Mae hwn yn ddigwyddiad rhad ac am ddim, ond mae lleoedd yn gyfyngedig ac mae’n rhaid archebu ymlaen llaw trwy wefan Celfyddydau SPAN. Anogir y cyfranogwyr i ddod â chinio parod a chwpan y gellir ei hailddefnyddio ar gyfer diodydd. Mae’r drysau’n agor am 10:15yb ar gyfer cofrestru, a

completed project, News

Y Prosiect Caredigrwydd – Dangoswch e a Rhannwch e!

Mae Celfyddydau Span yn gwahodd plant a phobl ifanc sy’n methu ymweld ag aelodau hŷn y teulu a ffrindiau yn ystod y pandemig i wneud fideo ar gyfer gweithgaredd Dangoswch e a Rhannwch e y Prosiect Caredigrwydd. Meddai Roald Dahl un tro “ Dw i’n credu mai caredigrwydd, fwy na thebyg, yw’r nodwedd bwysicaf oll i fi mewn bodau dynol. Gosodaf e cyn yr yn o’r pethau fel gwroldeb neu ddewrder neu haelioni neu unrhyw beth arall”. Mae’r elusen celfyddydau yn gofyn i chi ddod yn rhan o hyn drwy greu eich fideo cyfarwyddol eich hun sy’n dangos i ni’ sut mae creu rhywbeth sy’n lledaenu ychydig o garedigrwydd. Cymuned greadigol arlein newydd i Sir Benfro yw’r Prosiect Caredigrwydd, wedi’i hadeiladu i arddangos eich syniadau creadigol er mwyn gwneud i bobl deimlo’n well. Gall gweithred ddigidol o garedigrwydd fod ar sawl ffurf, yr unig beth sy’n rhaid i chi wneud yw meddwl am rywbeth rydych chi’n gallu ei greu sy’n dod â hapusrwydd. Gallai fod yn aderyn origami, anghenfil papier mache neu long ofod wedi’i gwneud o focsys wyau. Mae’r rhestr yn ddi-ddiwedd ac mae yn eich dwylo chi! Unwaith i chi benderfynnu ar beth i greu, rydym yn gofyn
completed project

Cyrraedd Y Nod

“The music project has given me my son back”. Roedd prosiect ‘Cyrraedd y Nod’ yn ymgysylltu â phobl ifanc 11-19 oed sy’n ‘anodd eu cyrraedd’ ac â risg uchel o ddod yn NEET (Heb fod mewn Cyflogaeth, Addysg na Hyfforddiant), trwy gyflwyno gweithdai celfyddydau a gweithgareddau i blant a phobl ifanc â phroblemau emosiynol ac ymddygiad yn Sir Benfro. Y prif nod yn y pendraw oedd helpu eu hail-integreiddio i addysg prif ffrwd, i’r gymdeithas ac, yn y pendraw, i’r gweithle. Fe fu Celfyddydau Span Arts yn gweithio gyda phobl ifanc yn yr Unedau Cyfeirio Disgyblion a gyfeiriwyd gan Wasanaeth Cymorth Ymddygiad Sir Benfro, yn ogystal â’r rheiny a oedd yn mynychu Canolfannau Ieuenctid ar draws y sir, Prosiect Cornerstone yng Ngholeg Sir Benfro i bobl ifanc ag anableddau dysgu a’r Uned Awtistig yn Ysgol Penfro. Trwy weithio gyda’r unedau hyn, ymgysylltwyd â chyfranogwyr ar oed digon cynnar fel ein bod yn gallu gwneud gwir wahaniaeth i’w dyheadau, hunan-hyder ac agweddau at ddysgu, trwy ymgysylltu â gweithdai cerddoriaeth, celfyddydau gweledol a digidol. Roedd Cam 2 yn canolbwyntio ar feithrin dyheadau ac uchelgeisiau’r cyfranogwyr, a’u cefnogi, ac ar feithrin yr hyder a’r hunanhyder sydd eu hangen er mwyn dysgu mewn ffordd

Scroll to Top