News

News

Galw Allan am Artistiaid – Straeon  Cariad at Natur 

Dyddiad Cau: Dydd Llun Gorffennaf 26ain Cyflawni: Awst – Medi 2021  Mae Celfyddydau Span yn gwahodd artistiaid, cerddorion, ymarferwyr creadigol a/neu gywiethfeydd wedi’u lleoli yng Ngorllewin Cymru i greu gwaith newydd ar gyfer ein prosiect haf Straeon Cariad at Natur. Rydym yn chwilio am ymateb artistig i’r galw ar y celfyddydau i fod o gymorth i gyfrannu at adferiad, llesiant a helpu i ddatrys yr argyfwng hinsawdd trwy ddweud straeon sy’n perswadio pobl i ‘syrthio mewn cariad â natur unwaith eto’ ac ysgogi pobl i fynd allan i’r awyr agored a mwynhau Sir Benfro. Byddwn yn dewis hyd at bedwar artist i greu ymateb artistig, mewn unrhyw ffurf gelfyddydol, sy’n arwain at destun sgwrs rhwng artistiaid a phobl Sir Benfro yn ymwneud â natur, yr amgylchedd, cynaliadwyedd a llesiant. Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion, partneriaethau neu gyweithfeydd sy’n gallu ymateb yn greadigol i’r briff a darparu modd i bobl gymryd rhan. Rydym yn edrych am gynigion amlwedd; yr hyn a olygir gan hyn yw prosiectau y gellir eu cyflwyno ar-lein neu’n wyneb yn wyneb, neu, yn ddelfrydol, cymysgedd o’r ddau, fel y gall cynulleidfaoedd/cyfranogwyr gymryd rhan yn ddigidol neu’n gorfforol, o dan do neu yn yr awyr agored. Gwahoddir i chi gynnig syniadau yr hoffech [...]
News

Recriwtio Aelodau i’r Bwrdd

Mae Celfyddydau Span yn awyddus i recriwtio aelodau newydd i Fwrdd yr Ymddiriedolwyr i fod o gymorth i arwain a chefnogi’n tîm arweinyddiaeth drwy adferiad ac ail-agor, ac i helpu i lunio cynnig celfyddydau cymunedol ymarferol ôl-COVID i Sir Benfro. Rydym yn agored i syniadau a dulliau gweithredu newydd wrth i ni chwilio am ddulliau newydd o weithio er mwyn cyrraedd ein nod ‘ Celf fel Newid Cymdeithasol yng Nghymru Wledig’. Mae SPAN yn elusen celfyddydau cymunedol bywiog a blaengar sydd â’r nod o gyflwyno prosiectau celfyddydol a digwyddiadau o ansawdd uchel i bobl gorllewin Cymru. Wedi’i leoli yn Arberth, ers y cyfnod clo mae Span wedi parhau i weithredu ar-lein, gyda staff yn gweithio o gartref, yn defnyddio technoleg ddigidol i’n galluogi i barhau i gyflwyno profiadau celfyddydol- o theatr ar-lein fel Theatr Soffa i gigs cerddoriaeth ar-lein a’r Prosiect Caredigrwydd - mae SPAN yn ymroddedig i helpu pobl i deimlo’n gysylltiedig ag eraill, i gael hwyl a mynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysiad cymdeithasol.   Rydym yn chwilio nawr am aelodau newydd sy’n brofiadol, angerddol a chyda cysylltiadau da, gyda’r egni a’r uchelgais i helpu i lywio Span ymlaen i’r dyfodol. Rydym yn chwilio am grŵp amrywiol
News

Tîm Cynhyrchu Baled Radio – Briff

An online artistic programme to reduce isolation and loneliness, alleviate fear, stress and boredom, and build community networks in Pembrokeshire.
This programme had its roots in Span Digidol, enabling us to respond quickly to the COVID crisis.

News

Llogi Ystafell

Stiwdio SPAN: Yn ogystal â bod yn ganolbwynt i’n gwirfoddoli a’n canolfan weinyddol, mae gan adeilad SPAN nifer o opsiynau ar gyfer llogi gan ddefnyddwyr allanol. Mae’r Stiwdio’n addas ar gyfer gweithgareddau bach, gweithdai, cyflwyniadau a chyfarfodydd. Mae parcio ar gael yn y maes parcio cyhoeddus (codir tâl). Mae lle i 30 ond dim ond i 6 os bydd angen cadw pellter cymdeithasol. Mae’r gost yn cynnwys: Mynediad i Wi-Fi Golau a gwres Toiled gyda basn ymolchi dwylo, addas i‘r anabl Seddau a byrddau Yswiriant yr adeilad- ond mae llogwyr yn gyfrifol am eu gweithgareddau a chynnwys eu hunain Costau:         Hyd at 3 awr £40 (£35 i sefydliadau trydydd sector)                         4-8 awr £60 (£55 i sefydliadau trydydd sector)                         Llogi taflunydd £5                         Gosod yr ystafell i fyny: £5   Cegin SPAN Os oes angen defnyddio’n cegin, sydd â chyfarpar llawn, ochr yn ochr â llogi’r stiwdio, bydd cost ychwanegol. Dewch â’ch bwyd a’ch diodydd eich hun os gwelwch yn dda. Nid yw’r gegin ar gael i’w llogi oni bai eich bod yn llogi’r stiwdio hefyd. Cost: £20 Swyddfa SPAN Mae gofod swyddfa (6m x 4m) ar gael lan stâr yn adeilad SPAN. Mae’n addas ar gyfer 3
News

Dan y Wenallt

Diolch am archebu’ch sedd Theatr Soffa ar gyfer cynhyrchiad Celfyddydau Span, Menter Iaith Sir Benfro a Cered o Dan y Wenallt Perfformir y darlleniad a ymarferwyd hyn yn fyw ar Fehefin 19eg 2020. Mae cast y cynhyrchiad yn aelodau’r gymuned – cyhoeddir rhestr lawn o’r cast fan hyn ar ôl y perfformiad. Mae’r perfformiad yn para tua 60 munud, caiff ei ystyried yn ‘PG’. Fydd na ddim toriad felly gwnewch yn siwr fod lluniaeth ysgafn gennych gerllaw! Fel deiliad tocyn gofynnwn yn gwrtais na fyddwch yn rhannu’r linc yma nac yn recordio’r perfformiad pan gaiff ei ddarlledu. Digwyddiad theatr byw wedi ei berfformio o bell yw hwn. I wylio’r cynhyrchiad ar sgrin lawn cliciwch ar y teitl Dan y Wenallt yng nghornel chwith uchaf y ffrâm sydd wedi’i mewnblannu isod. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r sioe! https://youtu.be/49FHLSOtbf4 Os ydych wedi mwynhau’r perfformiad ac os hoffech wylio cynhyrchiadau tebyg yn y dyfodol a fyddech cystal ag ystyried gwneud cyfraniad i Span trwy ddilyn y cyswllt yma: Cyfrannu!

completed project, News

Y Prosiect Caredigrwydd – Dangoswch e a Rhannwch e!

Mae Celfyddydau Span yn gwahodd plant a phobl ifanc sy’n methu ymweld ag aelodau hŷn y teulu a ffrindiau yn ystod y pandemig i wneud fideo ar gyfer gweithgaredd Dangoswch e a Rhannwch e y Prosiect Caredigrwydd. Meddai Roald Dahl un tro “ Dw i’n credu mai caredigrwydd, fwy na thebyg, yw’r nodwedd bwysicaf oll i fi mewn bodau dynol. Gosodaf e cyn yr yn o’r pethau fel gwroldeb neu ddewrder neu haelioni neu unrhyw beth arall”. Mae’r elusen celfyddydau yn gofyn i chi ddod yn rhan o hyn drwy greu eich fideo cyfarwyddol eich hun sy’n dangos i ni’ sut mae creu rhywbeth sy’n lledaenu ychydig o garedigrwydd. Cymuned greadigol arlein newydd i Sir Benfro yw’r Prosiect Caredigrwydd, wedi’i hadeiladu i arddangos eich syniadau creadigol er mwyn gwneud i bobl deimlo’n well. Gall gweithred ddigidol o garedigrwydd fod ar sawl ffurf, yr unig beth sy’n rhaid i chi wneud yw meddwl am rywbeth rydych chi’n gallu ei greu sy’n dod â hapusrwydd. Gallai fod yn aderyn origami, anghenfil papier mache neu long ofod wedi’i gwneud o focsys wyau. Mae’r rhestr yn ddi-ddiwedd ac mae yn eich dwylo chi! Unwaith i chi benderfynnu ar beth i greu, rydym yn gofyn
Scroll to Top