Paentio’r Ennyd: Gweithdy Symud, Meddylgarwch a Chreu-Marciau
Dydd Sadwrn Awst 23ain 2025 2:00PM – 4:00PM | Caban y Sgowtiaid, Arberth | £10 / £8 consesiwn Oed awgrymedig: 8+ | Lle i: 25 person Beth sy’n digwydd pan fydd gosgeiddrwydd araf dawnsio butoh yn cwrdd â chyffyrddiad ysgafn brws paent? Pan fydd creadigrwydd yn arafu i gyflymder anadl, a chwyrlïad corff yn symud yn destun prynhawn o synfyfyrio artistig? Mae Sesiynau Caban y Sgowtiaid SPAN yn eich gwahodd i brofi’r croestoriad unigryw hyn o ddisgyblaethau gyda ‘Phaentio Symudiad’, gweithdy ymgollol sy’n pontio sawl celfyddyd dan arweiniad yr hwyluswyr artistig Billy Maxwell-Taylor a Phoebe Lester. Mae’n wahoddiad i gymryd seibiant, arsylwi, ac i ymateb, nid mewn geiriau, ond gyda llinellau, lliw a greddf. Gyda chefnlen o gerddoriaeth amgylchynol mewn gofod croesawgar wedi’i oleuo’n dyner, caiff chyfranogwyr eu gwahodd i fraslunio, paentio, neu ddarlunio yr hyn maent yn ei deimlo yn gymaint â’r hyn y maent yn ei weld. Mae’r symudiad byw, cyfuniad llifeiriol o acrobateg ymdroellog ac arafwch myfyriol butoh, ffurf o theatr dawns Japaneaidd, yn datblygu o’ch blaen fel breuddwyd ar gerdded. Cewch eich tywys yn dyner drwy’r broses gan ddefnyddio’r defnyddiau a ddarperir neu cewch ddod â’ch rhai eich hun (ie, hyd yn oed y rhai hir […]























